Quantcast
Channel: Your Money Advice | The Money Advice Service blog
Viewing all articles
Browse latest Browse all 62

Sut wyf yn dod o hyd i'm hen bensiynau?

$
0
0

Gall fod yn hawdd colli golwg ar bensiynau. Efallai eich bod wedi symud swyddi neu wedi symud tŷ ychydig o weithiau, neu eich bod wedi cael gyrfa hir iawn. Beth bynnag yw'r rheswm, mae llawer y gallwch ei wneud i sicrhau eich bod mewn cysylltiad â phensiynau a allai roi hwb i'ch incwm pan fyddwch yn ymddeol, ac efallai hyd yn oed eich helpu i ymddeol yn gynharach. Ac os ydych yn cael trafferth, mae HelpwrArian yma i helpu.

Sut wyf yn darganfod pa bensiynau sydd gennyf?

Yr allwedd i lwyddiant wrth olrhain pensiwn yw bod yn drefnus. Os ydych wedi colli trac yna man dechrau da yw ysgrifennu rhestr o'r holl leoedd rydych wedi gweithio yn nhrefn dyddiad, er mwyn nodi unrhyw bensiynau yn y gweithle. Ac yna nodwch unrhyw bensiwn personol ar wahân y gallech fod wedi ei sefydlu.

Ar ôl i chi wneud hyn, gwiriwch a oes gennych unrhyw ohebiaeth ar gyfer y pensiynau hyn. Mae rhaid i'r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn anfon datganiad atoch bob blwyddyn yn dangos eich hawl. Os dewch o hyd i rai o'r rhain, mae'n syniad da gwirio bod eich manylion cyswllt yn gyfredol. Gallwch hefyd sefydlu cyfrif ar-lein â rhai darparwyr a all ei gwneud yn haws aros yn gysylltiedig â'ch pensiwn.

Os na allwch ddod o hyd i drywydd pensiwn ar gyfer rhai dyddiadau cyflogaeth, ac na allwch ddiystyru hawl pensiwn, yna ymchwiliwch i'r bylchau. Hyd yn oed os nad oes gennych ddatganiad na chofnod arall, mae’n posibl bod gennych bensiwn anghofiedig.

A allaf ddod o hyd i'm pensiynau â’m rhif Yswiriant Gwladol?

Ar hyn o bryd, i olrhain pensiynau coll, mae angen i chi gysylltu â darparwyr pensiwn hysbys neu debygol. Nid oes unrhyw ffordd i ddod o hyd i'r rhan fwyaf neu'r cyfan o'ch manylion pensiwn mewn un lle, dim ond trwy ddefnyddio gwybodaeth bersonol fel eich rhif yswiriant gwladol. Ymhen ychydig flynyddoedd, bydd dangosfyrddau pensiwn newydd yn gwneud hyn yn haws. Tan hynny, mae angen rhywfaint o ymdrech.

Mae'n debygol iawn serch hynny y bydd darparwr pensiwn yn gofyn i chi am fanylion allweddol fel eich rhif Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn cysylltu â hwy. Mae hyn yn golygu y gallant eich paru'n haws â hawl pensiwn. Mae'n debyg y byddant hefyd yn gofyn i chi am eich dyddiad geni a'ch dyddiadau allweddol sy'n ymwneud â'ch polisi pensiwn felly ceisiwch gael unrhyw wybodaeth allweddol wrth law pan fyddwch yn cysylltu â hwy.

Felly sut wyf yn dod o hyd i bensiynau coll?

Yn ddelfrydol, mae gennych hen waith papur ag enw eich cynllun pensiwn. Ond dros amser, mae cynlluniau pensiwn yn cau, yn uno neu'n cael eu hailenwi. Felly hyd yn oed os ydych yn cofio enw'ch cynllun, gallai gael ei alw'n rhywbeth arall bellach. Gall hyn ei gwneud yn anos olrhain y darparwr pensiwn ar gyfer eich gweithle neu bensiwn preifat.

Yn aml, gall adran AD cyflogwr blaenorol ddarparu manylion cyswllt darparwr pensiwn. Gallwch hefyd gael y manylion cyswllt hyn gan Wasanaeth Olrhain Pensiwn am ddim y llywodraeth, os ydych yn gwybod enw'r cyflogwr neu'r darparwr pensiwn. Mae gan y gwasanaeth gronfa ddata fawr o gynlluniau pensiwn gweithle a phersonol ac weithiau gallai hyn restru sawl posibilrwydd, yn enwedig os yw'ch cyflogwr blaenorol neu'ch darparwr pensiwn wedi cael ei ad-drefnu neu wedi newid ei enw.

Gallwch ddod o hyd i lythyrau templed yn ein canllaw Olrhain a dod o hyd i bensiynau coll, at ddarparwr pensiwn posibl neu gyflogwr blaenorol. Mae hyn yn cynnwys rhestr o gwestiynau y gallwch eu gofyn am eich pensiwn, gan gynnwys pa fath o gynllun ydyw - er enghraifft, buddion wedi eu diffinio neu gyfraniadau wedi eu diffinio?

Os ydych yn cael trafferth dod o hyd i'ch darparwr pensiwn, neu os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, gallwch gysylltu â llinell gymorth Pensiynau HelpwrArian. Gallwn eich helpu i leihau'r chwiliad. Fel y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn, ni allwn ddweud wrthych a oes gennych bensiwn, neu ei werth. Ond gallwn siarad â chi am  ba mor debygol ydyw y byddwch yn gymwys i gael pensiwn, a gwahanol strategaethau ar gyfer profi hawl.

Sut wyf yn darganfod a dalais am bensiwn? A sut wyf yn gwybod a wyf yn gymwys?

Cyn i chi ddechrau ar ymgais pensiwn coll hir, mae'n gwneud synnwyr gofyn a ydych yn debygol o fod yn gymwys i gael y pensiwn hwnnw.

Efallai bod gennych slipiau cyflog yn dangos didyniadau pensiwn neu dystysgrif o gynllun pensiwn. Fodd bynnag, nid yw hynny bob amser yn golygu bod gennych hawl pensiwn. Gall hyn fod oherwydd eich bod wedi trosglwyddo i bensiwn arall neu ad-dalwyd eich cyfraniadau atoch. Yn dibynnu ar bryd roeddech yn aelod o'r cynllun, a'r math o gynllun, efallai na fyddai gennych hawl yn awtomatig i gael pensiwn.

Sut wyf yn darganfod faint o bensiwn sydd gennyf?

Ar ôl i chi ddarganfod bod gennych hawl i bensiwn, gallwch weld neu ofyn am ddatganiad. Bydd eich hawl yn wahanol yn ôl p'un a oes gennych bensiwn buddion wedi eu diffinio neu gyfraniadau wedi eu diffinio. Gall ein llinell gymorth Pensiynau HelpwrArian helpu i egluro'r gwahaniaeth rhwng y mathau hyn o bensiynau.

Sut wyf yn darganfod fy mhensiwn y wladwriaeth?

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn wahanol i bensiynau gweithle a phreifat a gallwch ddarganfod mwy gan Wasanaeth Pensiwn yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Beth os wyf wedi gweithio i gwmni nad yw'n bodoli mwyach?

Os yw'ch hen gwmni wedi mynd yn fethdalwr, mae'n bosibl i’r Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF) gymryd dros y pensiwn - rhwyd ​​ddiogelwch i gwmnïau na allant gyflawni ei rhwymedigaethau pensiwn mwyach yw’r PPF. Gallwch ddod o hyd i restr o gynlluniau y mae'r PPF yn gofalu amdanynt ar wefan PPF.

Gall hefyd fod yn syniad da siarad â chyn-gydweithwyr i weld a allant helpu. Efallai y gallant roi manylion y cynllun i chi, fel ei enw neu wybodaeth gyswllt.

Ar ôl i chi ddod o hyd i'ch pensiwn, gallwch ffonio'r llinell gymorth Pensiynau HelpwrArian ar 0800 011 3797 i gael arweiniad ar eich camau nesaf, o gyfrannu mwy i dynnu'ch arian allan.


Viewing all articles
Browse latest Browse all 62

Latest Images

Trending Articles





Latest Images